Wednesday 21 August 2013

E-bost Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr - ymateb UCU Aber

(Saesneg - English)

Mae holl staff y Brifysgol wedi derbyn e-bost gan yr Is-ganghellor yn ddiweddar ynghylch yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr. Dyma’r ymateb yr ydym ni wedi ei yrru ati hi. Rhoir unrhyw ymateb yma, os cawn ni ymateb.

Annwyl April,

Croesawn y newyddion diweddaraf a anfonwyd gennych at yr holl staff yn sgil cyhoeddi ffigurau’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr. Cytunwn ei bod hi’n achos pryder fod y Brifysgol wedi disgyn yn y tabl, ond rydym yn sicr y byddwch yn cytuno fod hyn yn offeryn braidd yn ddi-fin ar gyfer mesur perfformiad staff. Felly, tra ymunwn â chi’n llongyfarch yr adrannau hynny sydd wedi llwyddo i gynyddu lefelau boddhad eu myfyrwyr, rydym hefyd yn cydnabod ymdrech yr holl staff ar draws y Brifysgol p’un a yw’r ymdrechion hynny’n cael eu hadlewyrchu yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr neu beidio.

Rydym yn sicr nad canlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yw unig yrrwr cynllunio buddsoddi, a bod barn myfyrwyr a staff yr un mor bwysig wrth lunio cynllunio buddsoddi. Croesawn y cynnydd mewn buddsoddiad yn y Brifysgol, gan gynnwys ei hystadau a’i hisadeiledd, sydd er budd y staff a’r myfyrwyr, cyhyd ag y bo lefel y buddsoddiad yn gynaladwy er mwyn dyfodol y Brifysgol.

Mae yna rai pwyntiau y tynnwyd ein sylw atynt yn eich e-bost, a hoffem fynegi ein barn arnynt:

1.       Mae blaengynllunio’n hanfodol ar gyfer dyfodol y Brifysgol, a chredwn mai diffyg blaengynllunio a arweiniodd at y problemau y gellid bod wedi eu hosgoi llynedd. Rydym yn falch fod gwersi gwerthfawr wedi eu dysgu.

2.       A gyhoeddwyd cynlluniau trafnidiaeth i/o Lanbadarn i’r campysau eraill? Os felly ble? A pha gamau sydd wedi eu cymryd i wella diogelwch y rhai sy’n seiclo a cherdded rhwng y dref a’r campws a rhwng y campysau?

3.       I ba raddau (a ym mha ffordd) yr ymgynghorwyd â staff yn ystod llunio’r Cynllun Cyfalaf Projectau, a gyhoeddir yn fuan?

4.       Beth fydd cynrychiolaeth y staff ar y grŵp Gwella Profiad Myfyrwyr, y bwriedir ei gynnull?

5.       Yn ddiweddar, syrthiasom o’r 133ain i’r 135ain safle yng Nghynghrair y Bobl a’r Blaned Werdd ar gyfer prifysgolion. Mae Bangor yn 20fed tra mai ni yw’r isaf trwy Gymru. A gawn ni ymateb manwl i’r ffaith drist hon? Dylai Prifysgol Aberystwyth fod yn arwain y ffordd yn y maes hwn ac ystyried ymchwil Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau’r Ddaear (IGES) a Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) i allyriadau carbon a newid hinsawdd. Mae’n anffodus nodi ein bod ni’n un o brif gyfranwyr i gynhesu byd-eang ymhlith prifysgolion y Deyrnas Gyfunol, ac ymddengys mai ni sydd leiaf pryderus i wneud iawn am hyn, er gwaethaf ein hymchwil gwerthfawr i’r maes hwn.

Edrychwn ymlaen at eich ymateb i’r pwyntiau hyn, ac i barhau deialog gadarnhaol gyda chi a Phwyllgor Gwaith y Brifysgol.

Yr eiddoch,


Am y Pwyllgor Gwaith UCU





No comments:

Post a Comment